Political boffin, keen fisherman looking forward to retirement.

Thursday, April 26, 2007

Taflennu'r Ceidwadwyr


Newydd gweld taflen y Ceidwadwyr ar gyfer rhestr De Cymru gorllewin. Dim gair o Gymraeg. Rwy'n cofio gweld taflen o shir Gar yn etholiad 2005, y sir gyda'r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, hollol un iaith saesneg gyda rhif ffon am y sawl roedd eisiau taflen yn iaith y nefoedd.


Y Ceidwadwyr wedi newid - dwi ddim yn credu!! Heblaw am Glyn Davies sy'n trio ei orau, sdim gyda nhw ddim i gynnig o ran dyfodol llewyrchus i Gymru.


Os mae un peth sy'n torri fy nghalon, darllen Maes e yw hynny a gweld nifer o Gymry Cymraeg cenedlaetholgar ifainc yn sirad dros y Ceidwadwyr. Dewch ymlaen bois bach, peidiwch bod mor ffol. Mae'r Ceidwadwyr yn chwarae'r tacteg 'triangulation' - eistedd ar dir traddodiadol y Blaid er mwyn dwyn pleidleisiau.


Fel mae'n nhw'n dweud yn yr Usual Suspects:


"The greatest trick the Devil ever pulled was convincing the world he didn't exist."


1 comment:

bethan said...

ie gwir iawn Ted. A fydd protest Cymdeithas yr Iaith yn erbyn y pleidiau hynny e.g y Toris, sydd ddim yn hyrwyddo'r gymraeg yn eu llenyddiaeth etholiadol, tybed?

Powered By Blogger