Political boffin, keen fisherman looking forward to retirement.

Monday, January 22, 2007

Yr Her i'r Pleidiau Prydeinig yng Nghymru


Mae fy ffynhonellau yn dweud i mi y bydd Plaid Cymru yn herio’r pleidiau Prydeinig i ymladd etholiadau’r Cynulliad yn deg trwy herio nhw i atal rhag defnyddio arian o’i pencadlys yn Llundain - i ariannu eu ymgyrchoedd yng Nghymru.

Ers dyfodiad y Cynulliad Cenedlaethol y mae pob un o’r pleidiau Prydeining yng Nghymru wedi ail brandio ei hun fel pleidiau Cymreig. Ond gyda’r trydydd etholiadau’r Cynulliad ar y gorwel, mae’n bur amlwg y bydd Llafur, y Ceidwadwyr a’r Rhyddfrydwyr yn ddibynol ar arian o’i meistri yn Llundain.

Nes bod y pleidiau yma yn llwyddo bodoli fel unedau ariannol ac ymgyrchu annibynol, mae ei honiad ei bod yn bleidiau Cymreig yn hollol chwerthynllyd

No comments:

Powered By Blogger