Newydd gweld taflen y Ceidwadwyr ar gyfer rhestr De Cymru gorllewin. Dim gair o Gymraeg. Rwy'n cofio gweld taflen o shir Gar yn etholiad 2005, y sir gyda'r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, hollol un iaith saesneg gyda rhif ffon am y sawl roedd eisiau taflen yn iaith y nefoedd.
Y Ceidwadwyr wedi newid - dwi ddim yn credu!! Heblaw am Glyn Davies sy'n trio ei orau, sdim gyda nhw ddim i gynnig o ran dyfodol llewyrchus i Gymru.
Os mae un peth sy'n torri fy nghalon, darllen Maes e yw hynny a gweld nifer o Gymry Cymraeg cenedlaetholgar ifainc yn sirad dros y Ceidwadwyr. Dewch ymlaen bois bach, peidiwch bod mor ffol. Mae'r Ceidwadwyr yn chwarae'r tacteg 'triangulation' - eistedd ar dir traddodiadol y Blaid er mwyn dwyn pleidleisiau.
Fel mae'n nhw'n dweud yn yr Usual Suspects:
"The greatest trick the Devil ever pulled was convincing the world he didn't exist."

