Political boffin, keen fisherman looking forward to retirement.

Showing posts with label Llafur. Show all posts
Showing posts with label Llafur. Show all posts

Monday, April 9, 2007

Croeso i Gymru Tony


Yn ol y son fe fydd y prif Weinidog yn dod i Gymru wythnos yma i helpu ymgyrchu y blaid Lafur. Mae'r neges felly yn glir - Mai'r 3ydd bydd cyfle olaf pobol Cymru i roi gic i Blair. Croeso Tony, gobeithio wnewn ni dy weld ar sawl achlysur cyn yr etholiad!!

Friday, March 2, 2007

Clymblaid Glas-Coch

Yn ystod dadl Dydd Gwyl Dewi ddoe yn y Senedd, naeth Adam Price llwyddo tynnu sylwad allwedol allan o Peter Hain. Dwedodd y Gweinidog ni fydd Llafur dan unrhyw amod yn furfio clymblaid gyda Plaid Cymru.

Felly mewn sefyllfa lle mae llafur yn ennill llai na 24 sedd (mae pobol ei hun yn briffio’r wasg gall pethau hyd yn oed yn waeth na hynny) a Rhyddfrydwyr yn methu sicrhau mwyafrif, fe fydd rhaid i’r Blaid Lafur dod i gytundeb gyda’r Ceidwadwyr.

Monday, January 22, 2007

Yr Her i'r Pleidiau Prydeinig yng Nghymru


Mae fy ffynhonellau yn dweud i mi y bydd Plaid Cymru yn herio’r pleidiau Prydeinig i ymladd etholiadau’r Cynulliad yn deg trwy herio nhw i atal rhag defnyddio arian o’i pencadlys yn Llundain - i ariannu eu ymgyrchoedd yng Nghymru.

Ers dyfodiad y Cynulliad Cenedlaethol y mae pob un o’r pleidiau Prydeining yng Nghymru wedi ail brandio ei hun fel pleidiau Cymreig. Ond gyda’r trydydd etholiadau’r Cynulliad ar y gorwel, mae’n bur amlwg y bydd Llafur, y Ceidwadwyr a’r Rhyddfrydwyr yn ddibynol ar arian o’i meistri yn Llundain.

Nes bod y pleidiau yma yn llwyddo bodoli fel unedau ariannol ac ymgyrchu annibynol, mae ei honiad ei bod yn bleidiau Cymreig yn hollol chwerthynllyd
Powered By Blogger