Political boffin, keen fisherman looking forward to retirement.

Showing posts with label Deddf Iaith Newydd. Show all posts
Showing posts with label Deddf Iaith Newydd. Show all posts

Sunday, February 18, 2007

Y Ceidwadwyr a'r Iaith Gymraeg

Fe wnaeth Owain Clark cyflwyno darn ddiddorol iawn heddiw ar Maniffesto parthed safbwynt y Ceidwadwyr a’r iaith. Mae’r holl ddadl ar yr iaith yn symboleiddio’r ‘newid’ cyfeiriad y mae’r Ceidwadwyr yn ceisio gwerthu i bobol Cymru. Mae ei strategwyr wedi dewis un o’r materion mwyaf effeithiol i geisio cyfathrebu y neges o ‘newid’ i’r etholwyr.

Yn sicr mae’r ffaith bod un o bleidiau Llundain yn fodlon trafod yr iaith mewn ffordd gall, yn hytrach na’r modd y mae’r blaid Lafur yn defnyddio’r iaith fel arf wleidyddol i rannu pobol Cymru yn erbyn ei gilydd, yn rhywbeth i groeso. Wedi dweud hynny, dwi’n credu bod y Ceidwadwyr yn agored i gael ei gyhuddo o ‘spin gwleidyddol’. Y gwir amdani yw, mae ei datganiad polisi ar yr iaith yn amhwys i ddweud y lleiaf. Yn hytrach nag ymgyrchu am Ddeddf Iaith Newydd gyda pwerau dros y sector breifat, yr hyn mae nhw’n gaddo yw adolygiad o'r ddeddf presennol.

Roedd adroddiad Owain Clark yn dangos yn glir bod anghytundeb ymysg grwp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad am yr angen am ddeddf Newydd, heb son am barn eu haelodau cyffredin.
Os ydyw’r Ceidwadwyr wir am ail frandio ei hun fel plaid Cymreig mae angen llawer mwy nag addewidion anelwig fel hyn.
Powered By Blogger